Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 25 Ebrill 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(59)v2

 

<AI1>

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud) 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud) 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI3>

<AI4>

4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru (60 munud) 

NDM4962 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb y Prif Weinidog ar 18 Ebrill 2012.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb y Prif Weinidog

 

 

</AI4>

<AI5>

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

NDM4963 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod yr hinsawdd economaidd anodd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian.

 

2. Yn cymeradwyo unrhyw ymdrechion gan awdurdodau lleol i wneud arbedion er mwyn darparu gwerth am arian y trethdalwyr;

 

3. Yn nodi ymhellach fod gormod o wastraff o hyd ar lefel Llywodraeth Leol; a

 

4. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i arwain drwy esiampl wrth yrru’r agenda gwerth am arian yn ei blaen.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 4.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r gwerth am arian sy’n cael ei gyflawni gan awdurdodau a arweinir gan y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi’u galluogi i ddarparu codiadau isel yn y dreth gyngor dros y pedair blynedd diwethaf.

</AI5>

<AI6>

6. Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

NDM4964 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod:

 

a) gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol;

 

b) bod awdurdodau lleol yn hanfodol i gynaliadwyedd economïau lleol;

 

c) ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn gyflogwyr da, cyfrifol; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer da ymysg awdurdodau lleol, gan gynnwys creu partneriaethau, sy’n diwallu anghenion lleol.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Yn is-bwynt 1b), dileu popeth ar ôl  ‘awdurdodau lleol’ a  rhoi yn ei le:

 

‘yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at economïau lleol, ond yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ymgysylltu’n ehangach â'r sector annibynnol a'r trydydd sector er mwyn sicrhau bod ffyniant economïau lleol yn gynaliadwy'

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pwysigrwydd ethol cynghorwyr sydd â gweledigaeth ar gyfer gwella gwasanaethau lleol er mwyn codi safonau.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am

</AI7>

<AI8>

7. Dadl Fer (30 munud) 

NDM4961 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

 

Troi Cefn neu Wthio i’r Cyrion: Beth sy’n digwydd i’r Pedwerydd Ystad yng Nghymru?

 

Dadl ar rôl y cyfryngau yng Nghymru.

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 1 Mai 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>